“Er mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad / In order to appreciate the odiousness of our behaviour”

Darn bach gan Emrys ap Iwan o 1895…

[English follows]

“Er mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad, dychmygwn fod y Saeson yn ymddwyn tuag atom ni fel yr ydym ni yn ymddwyn tuag atynt hwy. Dychmyger eu bod ynghanol Lloegr yn troi cyfarfod yn Gymraeg neu yn hanner Cymraeg o achos bod yno ddau neu dri o Gymry uniaith yn ddigon hy i weiddi “Cymraeg, Cymraeg.” Dychmygwn eu bod yn dewis Cymro uniaith i’w cynrychioli yng Nghaint neu yn Ynys Wyth, a’u bod yn llefain Clewk, Clewk, wrth wrando ar y cyfryw gynrychiolydd yn traethu yng Nghymraeg llydan Sir Fôn ar y priodoldeb o roi ychydig o le i iaith a llenoriaeth Saesneg yn athrofeydd Caergrawnt a Rhydychen. Dychmygwn fod barnwyr ac ynadon Lloegr gan mwyaf yn Gymry heb fedru dim Saesneg, a bod y rhai sydd yn medru Saesneg yr un ffunud yn mynnu siarad yn Gymraeg; fod y dadleuwyr, wrth erlyn ac amddiffyn, yn apelio at y barnwyr a’r rheithwyr yn Gymraeg, ac yn gwastraffu amser i holi’r tystion trwy gyfieithydd. Dychmygwn fod trigolion St. Albans neu Clackton-on-Sea yn codi eglwys a phedwar capel ar gyfer ymwelwyr Cymreig a theulu neu ddau o breswylwyr Cymreig, ynghyd â dwsin o Saeson sydd wedi colli eu Saesneg wrth werthu llefrith, cwrw, cennin neu bysgod i’r Cymry hynny. Dychmygwn fod athrawon ysgolion Lloegr yn gwialenodio, ie, yn ffonodio eu disgyblion am siarad Saesneg yn yr ysgol, ac yn eu rhybuddio na siaradont “that vulgar English” y tu allan i’r ysgol chwaith. Dychmyger bod miloedd o goegynnod a choegennod ar hyd a lled lloegr yn clebran Cymraeg yn y siopau, yn y trenau, a hyd yn oed mewn dosbarth yn yr ysgolion Sul, a hynny am eu bod yn synio bod siarad hen iaith go bur fel y Gymraeg yn beth mwy gweddus na siarad rhyw glytwaith diweddar fel y Saesneg. Dychmygwn fod ar agos bob siopwr yn Lloegr gywilydd ei alw ei hun yn butcher, yn clothier, neu yn shoemaker, a bod Richard Cockburn, Cigydd; John Coldbottom, Dilledydd; ac Alfred Rawbottom, Crydd, yn serennu uwch ben y siopau. Dychmygwn fod Cwmni’r L.&N.W.R. yn dileu’r enw Runcorn Station, ac yn peri paentio ar yr ystyllen: Gorsaf yr Un-Corn; fod gweision Gorsaf Oxford yn gweiddi “Rhydychen” er mwyn boddio’r astudwyr Cymreig, a bod gweision gorsaf Caer er mwyn peri cyfleustra i farchnadwyr ffwdanllyd Cymru yn dywedyd wrthynt yn fwyn: “This way, gentlemen, to the Nerpwl train.” Dychmyger (os gellir dychmygu peth mor anghredadwy) fod gweithwyr o Saeson ar rai o ffyrdd haearn Lloegr yn goddef i ddeuddyn uniaith â’u henw Huws a Dafis eu trin mor drahaus ag y mae gweithwyr o Gymry ar rai o ffyrdd haearn Cymru yn goddef i rai Saeson uniaith eu trin hwy. Yn sicr, ni byddai’n fwy anweddus i’r genedl ieuengaf ddynwared y genedl hynaf nag ydyw i’r genedl a orchfygwyd ei hamharchu ei hun er mwyn dangos parch i’r genedl a’i gorchfygodd.”

‘Paham y gorfu’r Undebwyr?’, Y Geninen, Hydref 1895.

A short piece by Emrys ap Iwan of 1895…

“In order to appreciate the odiousness of our behaviour, let us imagine that the English behave in the same way towards us as we behave towards them. Imagine that in the middle of England they started to use Welsh or half-Welsh in a meeting because there were two or three monoglot Welsh speakers in attendance bold enough to shout “Welsh, Welsh”. Let us imagine that they chose a monoglot Welsh speaker to represent Kent or the Isle of Wight in Parliament, and they cry Hear, Hear, as they listen to that said representative give a speech in broad Anglesey Welsh on the correctness of conceding some place to the English language and English literature at the Universities of Cambridge and Oxford. Let us imagine that the majority of judges and magistrates in England were Welshmen who couldn’t speak any English, and that those who could speak English likewise insisted on speaking Welsh; that counsel, whilst prosecuting and defending cases, addressed the judges and jurors in Welsh and wasted time by examining English witnesses through an interpreter. Let us imagine that the residents of St. Albans and Clacton-on-Sea built a church and four chapels for Welsh visitors and the one or two Welsh resident families, along with a dozen or so Englishmen who had lost their English whilst selling milk, beer, leeks or fish to the Welsh people. Let us imagine that the teachers of English schools lashed, yes, caned their pupils for speaking English at school, and warned them not to speak “that vulgar English” outside school either. Imagine that thousands of fops and coquettes up and down England chattered in Welsh in the shops, in the trains, and even in Sunday School classes because they supposed that speaking an old, genuinely pure language like Welsh was more seemly than speaking some johnny-come-lately hybrid like English. Let us imagine that nearly all shopkeepers in England were ashamed to call themselves a ‘butcher’, a ‘clothier’, or a ‘shoemaker’, and that ‘Richard Cockburn, Cigydd’; ‘John Coldbottom, Dilledydd’; and ‘Alfred Rawbottom, Crydd’ glittered above the shops. Let us imagine that the L&NWR Company banished the name ‘Runcorn’ Station, and painted ‘Gorsaf Un-Corn’ on the sign instead; that station porters in Oxford shouted “Rhydychen” in order to keep the Welsh students happy, and that porters in Chester said obligingly – in order to keep fussy Welsh businessmen happy – “This way, gentlemen, to the Nerpwl train”. Imagine (if such an unbelievable thing can be imagined) that English workers on some of the English railroads tolerated a couple of monoglot Welshmen called Huws and Dafis treating them as contemptuously as Welsh workers on some of the Welsh railroads tolerate being treated by some monoglot Englishmen. For sure, it wouldn’t be any more proper for the younger nation to imitate the older nation than it would be for the conquered nation to disrespect itself whilst showing respect to the nation which conquered it.”

‘Paham y gorfu’r Undebwyr?’ [‘Why did the Unionists win?’], Y Geninen, Hydref 1895.

Rhowch sylw

“Y mae i Gymru enaid”

Owen M. Edwards, ‘Enaid cenedl’, 1918 (Llyfrau’r Ford Gron 19, tt. 37-40)

“Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o’r llwch ac ymgryfhau, gall y goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesgáu a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy. A phe digwyddai’r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a’r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai’r faner; byddai ei llais hi yn fud.”

“Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o’r golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw’r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr, – yno y caiff ysbryd Cymru ei eni, Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nod ddim yn is.”

,

Rhowch sylw

Dau Naratif Cenedlaethol

O’r Amseroedd Cynharaf hyd at 1918   Enwau Ar gychwyn ei gampwaith Hanes Cymru, cydnebydd John Davies yr anhawster a wynebir wrth geisio datgan ‘pryd’ yn union y dechreuodd hanes y diriogaeth sy be…

Source: Dau Naratif Cenedlaethol

Rhowch sylw

Doubly Privileging Nation-states that happen to be Preconstituted

“While the possibility of constructing human communities capable of cooperation and of maintaining a wealth of cultural diversity while eschewing nationhood may be an ideal worth working for, for contemporary Wales to give up its aspirations to nationhood surely would do little to further that cause. The post-nation people of Wales could not float in limbo in a world otherwise inhabited by nationals without being recategorized: we would all, willy-nilly, be categorized, by others if not by ourselves, as ‘British’, as unproblematic members of the British nation state. And in today’s Britain, the default position for those who identify, or are identified, as British only, with no qualifiers, remains an unexamined English cultural identity. British Unionists would of course be gratified by such a denouement to Welsh difference but it is difficult to see how it would profit any other group. The Afro-American critic Henry Louis Gates, Jr., remarked in the context of a debate on black identity:

Consider the irony: precisely when we (and other Third World peoples) obtain the complex wherewithal to define our black subjectivity in the republic of Western letters, our theoretical colleagues declare that there ain’t no such thing as the subject, so why should we be bothered with that?… For anyone to deny us the right to engage in attempts to constitute ourselves as discursive subjects is for them to engage in the double privileging of categories that happen to be preconstituted. (Gates, Jr., 1992:36, 39)

Much the same point could be made about any attempt to persuade stateless nations to be the first to abandon national status: if they did so they would but doubly privilege nation-states that happen to be preconstituted. No doubt many anti-colonial poets […] would be happy to abandon the ambivalent contradictions of Welsh nationhood for the sake of equal membership in a global community, free of divisive national allegiances and respectful of cultural difference. But until that day draws nearer, for the Welsh unilaterally to abandon their claims to national difference and become, in national terms, nothing but members of a British nation-state, still very heavily English dominated, surely cannot be the best way to aim a blow at the more pernicious aspects of nation-building.”

[Jane Aaron, ‘Bardic Anti-colonialism’ yn Jane Aaron & Chris Williams (goln.), Postcolonial Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005), 155-156]

, ,

Rhowch sylw

Dic-Siôn-Dafyddion sy’n ‘marchogaeth’ ar deimlad Cymreig y wlad

Ym mis Ionawr 1895 ysgrifennodd awdur o dan y ffugenw ‘Dau Gyfaill’ erthygl hir a manwl (Beth Sydd Genedlaethol?’) yn y cylchgrawn Cymreig Y Geninen, yn beirniadu yn llym y rhai yng Nghymru “sydd yn proffesu eu bod yn Gymry”, ond mewn gwirionedd, sydd “yn diystyru iaith eu cenedl trwy glebar ac ysgriblo, heb raid nac achos, yn iaith eu gorchfygwyr”. Gan mai Saesneg yw iaith gyffredin y rhai hyn, meddai ‘Dau Gyfaill’, “ar y aelwyd, mewn cymdeithasau, cynghorau, a llythyrau”, “ni raid dweyd fod eu hyspryd, eu syniadau, a’u harferion hefyd yn Seisnigaidd, os nad yn gwbl Seisnig”. Mae ‘Dau’ yn mynd ymlaen i gwyno am y ‘Dic-Siôn-Dafyddion’ hynny oedd yn “marchogaeth” ar y “teimlad Cymreig” newydd a fu’n cryfhau yng Nghymru ers degawd neu ddau, y rhai hynny a oedd yn manteisio ar wladgarwch y bobl gyffredin er mwyn hybu eu bywydau cyhoeddus, ond methu cefnogi’r iaith Gymraeg na buddiannau Cymreig eraill yn eu bywydau preifat. Cwyna yr awdur yn benodol fod y bobl hyn yn defnyddio disgwrs a therminoleg cenedlaetholdeb – a’r gair ‘cenedlaethol’ yn arbennig – heb fod yn wirioneddol genedlaetholgar neu yn wlatgar yn eu gweithredoedd:

Er hynny, y maent yn ddigon craff i wybod fod teimlad Cymreig cryf yn y wlad; ac er mwyn marchogaeth ar hwnnw i gyrraedd eu hamcanion eu hunain, y maent yn gyfrwys  iawn yn galw pob peth y bydd ganddynt hwy ran ynddo yn Genedlaethol. Ar y Cymro cyffredin y mae y rhai hyn yn byw; a chan fod hwnnw druan yn dueddol i goelio pob hyspysiad a fydd wedi ei argraffu mewn llythyrennau breision, y mae efe yn coelio fod pob peth a elwir yn “genedlaethol” ar bapur, yn genedlaethol mewn gwirionedd, ac am hyny yn teimlo fod dyled arno i’w gefnogi.

Mae’r awdur yn mynd ymlaen yng ngweddill yr erthygl i graffu yn fanwl ar y sefydliadau ac ar y bobl sy’n eu galw eu hunain yn ‘genedlaethol’ ac i roi eu ‘cymwysterau cenedlaetholgar’ ar brawf.

Mae yn troi yn gyntaf at newyddiaduron ‘cenedlaethol’ Cymru ac yn eu ceryddu am ailadrodd yn ddifeddwl storïau a barn olygyddol papurau Seisnig, tra eu bod yn methu cynrychioli barn gyffredin pobl Cymru ynghylch materion moesol megis imperialaeth a rhyfeloedd tramor. Mae yn beirniadu eu diffyg egwyddor a “chydwybod” mewn cwestiynau  gwleidyddol mawr y cyfnod, ac yn eu beirniadu am “ymgecru ynghylch pethau dibwys” megis datgysylltu’r Eglwys a diwygiad tir yn lle dadlau dros bethau “pwysig” y genedl megis “cadwedigaeth yr iaith Gymraeg”. Mae hefyd yn beirniadu’r newyddiaduron am fethu craffu ar ‘gymwysterau cenedlaetholgar’ y dynion sy’n sefyll dros aelodaeth pwyllgorau addysg. Yn ail mae yn beirniadu’r Eisteddfod Genedlaethol am wneud cymaint o ddefnydd o’r Saesneg yn ei gweithgareddau, yn ei hysbysebion ac yn ei chofnodion, ac yn beirniadu eisteddfodau enwadol am fod yn “sectol” (yn lle ‘cenedlaethol’) wrth ddewis eu testunau a’u beirniaid. Mae yn mynd ymlaen i feirniadu Seisnigaeth athrawon a llywodraethwyr y “colegau cenedlaethol” ym Mangor, Aberystwyth a Chaerdydd, a diffyg Cymreictod yng ngholegau diwinyddol yr enwadau ac ‘ysgolion cenedlaethol’ Eglwys Lloegr. Mae yn gwrthod y syniad bod y Methodistiaid Calfinaidd yn “gyfundeb cenedlaethol” wedi iddynt fynd i “ddala” eneidiau Seisnig trwy eu ‘achosion Seisnig’, ac mae yn gwadu y gellir galw gwleidyddion Cymreig megis David Lloyd George yn wleidyddion ‘cenedlaethol’ tra eu bod yn esgeuluso’r iaith Gymraeg a gwrthod a gwawdio arwyddeiriau newydd megis ‘Cymru Gymreig’ a ‘Chymry i’r Cymry’. Y gwleidydd neu’r sefydliad sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn weithredol ac sy’n rhoi swyddi cyhoeddus i Gymry Cymraeg yn hytrach nag i fewnfudwyr o Saeson yw’r unig wleidydd neu’r unig sefydliad a all ei alw ei hunan yn ‘genedlaethol’ yn y pen draw, ym marn ‘Dau Gyfaill’.

Mae’r erthygl hon yn enghraifft dda iawn o ddisgwrs cenedlaetholdeb Cymreig ‘eithafol’ y 1880au a 1890au; hynny yw, disgwrs yr awduron a deallusion a oedd yn gwrthod yn llwyr genedlaetholdeb cymedrol, sifig mudiadau cenedlaetholgar newydd megis Cymru Fydd. Cenedlaetholdeb ethno-ieithyddol pur sydd gennym yn yr erthygl hon, cenedlaetholdeb sy’n rhoi ffawd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn uwch na phob ystyriaeth arall, a chenedlaetholdeb a seilir ar ddeuoliaeth ddisgyrsiol lem rhwng y rhai sy’n cefnogi’r iaith a’r rhai sy’n ei hesgeuluso neu yn ymosod arni.

Honnid hyd yma yn hanesyddiaeth brif ffrwd Cymru mai Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan oedd yr unig awduron cenedlaetholgar o’r fath yng Nghymru ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae tystiolaeth yr erthygl hon, a sawl erthygl arall, yn dangos naill ai nad lleisiau unigol oedd MDJ ac Emrys yn 1895, neu mai rhyw fath o trolls cynnar oeddynt, wrth iddynt hyrwyddo syniadau ‘eithafol’ mewn erthyglau dienw (anhysbys hyd yma) er mwyn rhoi’r argraff bod llawer mwy o gefnogaeth ganddynt ar lawr gwlad nag oedd ganddynt mewn gwirionedd. Mae seiliau ieithyddol, orgraffyddol a chyd-destunol da iawn i dybio bod yr olaf yn wir yn yr achos hwn, ac mai Emrys ap Iwan yw ‘Dau Gyfaill’ ac awdur go iawn ‘Beth sydd Genedlaethol’. Byddwn yn dychwelyd at y posibilrwydd hwnnw yn y dyfodol, ond yn y cyfamser, oni fyddai’n wych meddwl bod Emrys yn defnyddio’r ffugenw ‘Dau Gyfaill’ i gyfeirio yn uniongyrchol ato ef ei hunan ac at Michael D. Jones, at ddau gymrawd syniadaethol yn y gwrthdaro mawr, fel petai?

Ceir yr erthygl gyflawn isod, yn ei ffurf wreiddiol â’i horgraff wreiddiol, heb ei chywiro na’i diweddaru.

 


BETH SYDD GENEDLAETHOL?

Y Geninen, Ionawr 1895, tt.16-22

Er gwaethaf yr Hen Estrones Sefydledig a’r Estronesi Ieuainc Ymneillduol, Esgob Llanelwy a Robert Davies y Borth, Forward Movement John Puw, Primrose League Randolph Churchill, Gallu’r Tywyllwch, a phob peth gwrth-Gymreig arall, y mae yr yspryd Cymreig etto yn bur gryf yng Nghymru. Er fod llaweroedd yn ceisio ei ladd dan rith cariad at grefydd ac addysg gyffredinol, y mae efe etto yn fyw – mor fyw fel y mae y rhai mwyaf Seisnigaidd eu hysbryd a’u syniadau yn gorfod plygu o’i flaen a rhagrithio cryn lawer, pan y bydd arnynt eisiau rhyw swydd sydd yn dwyn elw neu enw i’w pherchenog. Pob peth a ddyry Dic-Sion-Dafydd am ei fara a chaws, a’r llythyrenau A.S., C.S., C.P., C.T., neu U.H. Fe gaiff hyd yn oed Sais uniaith y swydd fwyaf ennillfawr ac anrhydeddus a all y Cymry ei rhoddi iddo, os ymostynga efe i gyfaddef yn nechreu ei araith fod yn ddrwg ganddo nad all efe ddim annerch ei etholwyr “in the beautiful Welsh tongue,” ac os diwedda efe ei araith trwy waeddi “Cumree am beeth.” O! y mae y Cymry cyffredin yn drugarog odiaeth wrth Saeson a Dic-Sion-Dafyddion rhagrithiol; a rhai ohonynt yn drugarog wrth bechaduriaid gonest hefyd, os bydd y pechaduriaid hynny yn ddigon ariannog i roddi iddynt iawn mawr am fod yn onest. Yn Llandudno, ac amryw leoedd eraill, lle y mae cryn lawer o respectable English tramps, fe gaiff Sais fod yn aelod o bwyllgor hyd yn oed pe dywedai efe yn uchel ac yn groew mai Saesneg a ddylai fod iaith holl bwyllgorau Cymru, ac fod yn waradwyddus i Gymro siarad ei iaith ei hun yn ei wlad ei hun, yn enwedig pan y bo Sais o fewn ergyd carreg iddo. Ymhlith preswylwyr glàn y môr, sydd yn byw ar weini i grwydriaid parchusach na’r crwydriaid sydd yn cynniweirio ein tlottai, y mae cariad masnachol yn cuddio lliaws o bechodau. Y mae llawer o’r crwydriaid hyn, wrth weled mor Sais-addolgar ydyw y Cymry, yn dyfod yma i drigo; ac er fod y rhàn fwyaf ohonynt yn ddinod ac yn wrthodedig yn eu gwlad eu hunain, etto, y maent, trwy gymmorth y Dic-Sion-Dafyddion, y cigyddion, a’r tafarnwyr, yn cael lle mawr yng Nghymru. O! Gymry gwirion, yn enwedig chwychwi breswylwyr gwanllyd glàn y môr, pa hyd y cerwch eich cymmydog Seisnig yn fwy na chwi eich hunain, yn fwy na’ch Duw, na’ch crefydd, na’ch iaith, ie na phob peth sydd werthfawr? Yr ydych yn dweud y cyll y pagan ei enaid am ei fod yn addoli delwau – delwau sydd yn rhy fawr i wneyd na da na drwg: onid ystyriasoch y gallwch chwithau golli eich tipyn enaid trwy addoli duwiau Seisnig; a hyny yn fwy, am fod y rhan fwyaf o’r rhai hyn yn llygru nid yn unig eich cenedlgarwch, ond hefyd eich moesau a’ch crefydd. Pan y digwydd i ryw Gymro callach a gwrolach na chwi eich hunain draethu rhyw wirionedd rhesymol a baro dramgwydd i Saeson uniaith, na frysiwch i ymgroesi, i syrthio ar eich gliniau, i ddangos gwỳn eich llygaid, ac i ddwedyd ar goedd gwlad ac o flaen y Saeson nad ydych chwi, fel Cymry eraill, yn parchu eich iaith, yn parchu eich cenedl, ac yn parchu eich hunain; canys wrth “brotestio gormod,” chwi ellwch nid yn unig wneyd eich hunain yn watwargerdd i’ch cydgenedl, ond hefyd beri i’r Saeson eu hunain ammeu a ydych yn llawn mor wasaidd ag yr ydych yn proffesu eich bod.

Ond nid am y Dic-Sion-Dafyddion digywilydd sydd yn cydnabod nad ydynt yn dda i ddim ond i wasanaethu’r Saeson yr ydym yn bwriadu son; eithr am y Dic-Sion-Dafyddion sydd yn proffesu eu bod yn Gymry, ac etto yn diystyru iaith eu cenedl trwy glebar ac ysgriblo, heb raid nac achos, yn iaith eu gorchfygwyr. Gan mai y Saesneg yw iaith gyffredin y rhai hyn ar y aelwyd, mewn cymdeithasau, cynghorau, a llythyrau, ni raid dweyd fod eu hyspryd, eu syniadau, a’u harferion hefyd yn Seisnigaidd, os nad yn gwbl Seisnig. Er hyny, y maent yn ddigon craff i wybod fod teimlad Cymreig cryf yn y wlad; ac er mwyn marchogaeth ar hwnnw i gyrraedd eu hamcanion eu hunain, y maent yn gyfrwys iawn yn galw pob peth y bydd ganddynt hwy ran ynddo yn Genedlaethol. Ar y Cymro cyffredin y mae y rhai hyn yn byw; a chan fod hwnnw druan yn dueddol i goelio pob hyspysiad a fydd wedi ei argraffu mewn llythyrennau breision, y mae efe yn coelio fod pob peth a elwir yn “genedlaethol” ar bapur, yn genedlaethol mewn gwirionedd, ac am hyny yn teimlo fod dyled arno i’w gefnogi.

Bwriwn olwg ar ein gwahanol bethau “cenedlaethol,” er mwyn gweled i ba raddau y maent yn genedlaethol.

 

NEWYDDIADURON CENEDLAETHOL.

1. Beth am ein NEWYDDIADURON “cenedlaethol,” – a ydynt hwy yn cyfatteb i’w henw? Na ydynt ddim. Er fod un neu ddau ohonynt yn rhagori yn ddirfawr ar y lleill mewn gallu llenyddol, ac fod amryw eraill yn fwy Cymreig eu syniadau nag oeddynt, etto, prin y gellir dweyd fod cymmaint ag un o’r papurau Cymreig yn Newyddiadur Cenedlaethol. A siarad yn gyffredinol nid ydynt yn newyddiaduron o gwbl. Papurau ydynt, yn cynnwys hen ffeithiau a dyfaliadau a dychymygion a gasglwyd yn frysiog gan fechgyn Seisnig uniaith, ac a drowyd yr un mor frysiog i rywbeth tebyg i Gymraeg gan fechgyn Cymreig, ag sydd, gan mwyaf, naill ai yn rhy falch neu ynte yn rhy ddiog i weithio â’u dwylaw yn y maes neu yn y gloddfa. Bras-gyfieithiad o erthyglau Seisnig yw llawer o’r prif erthyglau hefyd; ac am hynny nid yw ryfedd fod cynnifer o ddarllenwyr y papurau Cymreig yn dwyn mwy o sêl dros un o’r pleidiau Seisnig na thros eu cenedl eu hunain, ac yn cyfranogi mor helaeth o ragfarnau y Saeson yn erbyn Ffrainc a Rhwssia, ac mor barod i gyfiawnhau eu gweithredoedd trahaus hwynt yn yr Aifft, Deheubarth Affrica, Madagascar, yr India, ac Affganistan. Gymmaint o ffiloreg faleisus a gopïwyd yn ddyfal y naill wythnos ar ôl y llall o’r papurau Seisnig ynghylch yr Iuddewon ysglyfgar a yrrwyd allan o Rwssia, ac a attaliwyd rhag glanio yn y wlad oedd yn cymmeryd arni gydymdeimlo â’r Iuddewon hynny. O! y mae parodrwydd mân ysgriblyddion Cymru i lyncu yn ddihalen bob peth a ymddanghosodd mewn newyddiadur Seisnig yn ddigon i godi cyfog ar bob dyn sydd wedi darllen a theithio tipyn.

Os papur yn traethu syniadau corff y genedl ydyw Newyddiadur Cenedlaethol, yna nid oes odid un papur Cymreig yn Newyddiadur Cenedlaethol; canys fe fyddai yn arw meddwl fod y papurau Cymreig yn enau i gydwybod y genedl pan oeddynt yn amddiffyn y Saeson yn erbyn y Zulus, ac yn amddiffyn y bond-holders yn erbyn dilynwyr Arabi Pasha, ac yn cyfiawnhau pob traha y byddai eu harglwyddi o Loegr yn euog o hono. Er cymmaint a fu dylanwad y papurau Cymreig ar y rhai oedd yn eu darllen, ni ddarfu i’r surdoes Seisnig oedd ynddynt erioed suro yr holl does. Yn wir, prin y gellir dweyd ei fod wedi suro yr ysgrifenwyr neu y cyfieithwyr eu hunain hyd i’w canol; canys, er eu bod am flynyddoedd wedi cyfieithu pob peth a ymddangosodd yn y papurau Seisnig yn erbyn y Gwyddelod, etto pan y cafodd Mr. Gladstone droedigaeth ddisymmwth, fe fu yn hawdd ganddynt hwythau droi yn ddisymmwth i gyfieithu pob peth a ymddangosodd o hynny allan o blaid y Gwyddelod. Y mae hyn yn dangos mai pwnc o gyfleustra, a phwnc o ffasiwn, a phwnc o fasnach, ac nid pwnc o gydwybod, yw Undebaeth neu Ymreolaeth i olygwyr a pherchenogion ein newyddiaduron. Pa beth a ddywed y Saeson, ac nid pa beth a ddywed ein cydwybod ni ein hunain, yw gofyniad mawr y rhai hyn. Yn unig mewn ymgecraeth rhwng perchenogion a deiliaid tir, rhwng meistriaid a gweision, rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, rhwng sect a sect, rhwng ysgol ac ysgol yn yr un sect, a rhwng person a pherson, y ceir gweled tipyn go lew o wreiddioldeb yn ein newyddiaduron. Wrth ymgecru, hwy a anturiant ddweyd rhai pethau na welsant erioed monynt mewn newyddiaduron Seisnig, ac a lithrant weithiau i ysgrifennu Cymraeg gweddol ystwyth a dealladwy.Nid ydynt yn llawn mor wreiddiol wrth wenieithio i’w gilydd, ­–  er eu bod yn gallu bod yn eithafol wrth wneyd hynny hefyd. Y mae yn ddiau fod ymgecru ynghylch pethau dibwys yn un o wendidau ein cenedl: ond ai am fod ymgecraeth yn hanner llenwi ein papurau Cymreig y gelwir hwynt yn “newyddiaduron cenedlaethol?”

Ocha ni! er ein bod yn byw ar fin yr ugeinfed ganrif, llwyddiant yr Eglwys, llwyddiant Ymneillduaeth, llwyddiant sect, llwyddiant plaid neu lwyddiant dosparth, ac nid llwyddiant y genedl, sydd etto yn bennaf peth yn y newyddiaduron Cymreig. Yn lle apelio at gàlon iach y Cymro, apelio yr ydys o hyd at afu afiach yr Esgobaethwr, y Bedyddiwr, y Tori, neu y Chwigiad; at gylla’r glöwr, ac at logell yr amaethwr llygad-y-geiniog.

Os papur â’i amcan i gadw’r Cymry yn Gymreig o ran eu hyspryd, eu hiaith, a’u llenyddiaeth, ydyw papur cenedlaethol, yna o’r braidd y mae y rhàn fwyaf o’r papurau Cymreig yn genedlaethol yn yr ystyr hwnnw chwaith. Heb law fod eu Cymraeg hwy eu hunain yn hanner Seasneg, a bod y rhàn fwyaf o’r hyspysiadau sydd ynddynt yn gwbl Seisnig, nid yndynt yn tyrfu chwarter digon ynghylch y pethau y mae yn rheitiaf i’r Cymry eu cael a’u gwneuthur. Os oes gennym ddigon o barch i ni ein hunain i fynnu parhau yn genedl wahanedig, heb ymgolli yn y Saeson fel Brythoniaid Cernyw a Gogledd Lloegr, pa beth all fod cyn bwysiced a gwneuthur holl Gymru yn Gymru Gymreig? Pa les fydd i ni gael Ymreolaeth os byddwn wedi peidio â bod yn Gymry? ac ar ba dir y gallwn ni hawlio Ymreolaeth os na allwn ddangos fod gennym iaith amgen nag sydd gan y Saeson? Y mae gan y Gwyddelod y môr i’w neillduo oddiwrth y Saeson, ond nid oes gennym ni ddim ond ein hiaith. Os collwn y nod hwn fe aiff pob nod arall yn fuan iawn yn rhy anamlwg i estroniaid allu ei ganfod.

Yngolwg y Saeson y mae Dadsefydliad yr Eglwys yng Nghymru, a Diwygiad ar Ddeddf y Tir, yn bwysicach na chadwedigaeth yr iaith Gymraeg; a chan fod y papurau Seisnig yn gosod pethau o’r ail radd yn uchaf, y mae y papurau Cymreig ysywaeth yn gwneyd yr un peth. Y maent ar frys am gael y pethau y gellir aros am danynt, ac yn ddiofal ddigon am ddarparu meddyginiaeth effeithiol i iaith sydd ym mherygl marwolaeth o eisiau amgeledd. Hyn yw arwyddair y golygwyr Cymreig yr un ffunud a’r golygwyr Seisnig: “Yn gyntaf yr anianol, ac wedi hyny yr ysprydol.”

Pa gyfarwyddyd a roes y papurau Cymreig i gospi athrawon anwladgar a rhieni difeddwl, am beidio â manteisio hyd yr eithaf ar y rhyddid a roddwyd i addysgu Cymraeg i blant yn yr ysgolion cyffredin? Pa gynllun a gynnygiasant tuag a lenwi ein Byrddau Ysgol âg aelodau sy’n credu â’u holl galon mai gwybodaeth grefyddol a gwybodaeth o iaith eu gwlad eu hunain ydyw y ddwy wybodaeth y mae yn rheitiaf i blant wrthynt? O’r ddau, y mae yn bwysicach edrych pwy a ddanfonir i Fwrdd Ysgol na phwy a ddanfonir i’r Senedd. Yr ydys yn ofalus iawn am ddewis dynion i gynrychioli y gwahanol sectau ar Fwrdd Ysgol; ond ychydig iawn ydys yn ofalu am ddewis dynion i gynrychioli’r genedl arno. Ond beth yw bod yn Eglwyswr, neu beidio â bod yn Eglwyswr? beth yw bod yn Ymneillduwr, neu beidio â bod yn Ymneillduwr, wrth fod yn Gymro neu beidio â bod yn Gymro? Beth yw dwyn i mewn gatecism i’r ysgol, neu gau catecism allan o honi, wrth ddwyn i mewn neu gau allan y Gymraeg? Pe darfyddai am bob sect yng Nghymru y fory nesaf ni byddai hynny golled yn y byd; a phe byddai y peth yn golled, fe fyddai yn ddigon hawdd codi llu o sectau gwell yn eu lle cyn pèn tridiau; ond fe fyddai colli y Gymraeg yn golled erchyll ac anadferadwy. Am hynny, pan etholer Bwrdd Ysgol, edryched y Cymry yn ddyfal a ydyw pob ymgeisydd yn ffyddlon i iaith ei wlad ac i grefydd gyffredinol ac ymarferol, ac na ofyner iddo un cwestiwn arall. Ni chewch mo’ch annog a’ch annog i wneyd hyn yma ym mhapurau Cymru; a hynny o [o] achos mai papurau Seisnigaidd a sectol ydynt, ac nid newyddiaduron cenedlaethol.

 

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

2. Beth am yr Eisteddfod? a ydyw hi yn genedlaethol? Na, yr ydys yn brysur yn ei throi yn fath o Theatre of Varieties, neu yn Arddanghosfa Bronnau-noethion, i ddifyru llygaid a chlustiau y Saeson crwydraidd. Yn Saesneg y bydd y cantorion mwyaf penwag yn canu ynddi. Fe ofynir i’r arweinydd roi llawn cymmaint o amser i wneyd ei hun yn ffwl yn Saesneg ag a rydd efe i wneyd ei hun yn ffwl yn Gymraeg. Fe ddisgwylir i’r rhan fwayf o’r llywyddion a’r areithwyr ddangos eu bod yn rhy ddysgedig ac yn ormod o “fyddigions” i fedru siarad Cymraeg. Saesneg fydd ar hyspyslenni yr Eisteddfod, ar y tocynau, ac ar y programmau. Yn Saesneg y cyhoeddir ei hanes, sef y Transactions. Yn Saesneg y bydd ysgrifennyddion yr Eisteddfod yn ymohebu âg eraill; ïe, yn Saesneg y bydd agos bawb o aelodau y pwyllgor lleol yn ceisio siarad. Er fod Caernarfon yn un o’r trefi mwyaf Cymreigaidd yng Nghymru, etto fe fynnodd aelodau pwyllgor yr Eisteddfod a fu yno droi eu cyfarfodydd yn fath o gymdeithasau dadleuol, fel y caffai yr aelodau mwyaf annysgedig fantais i ymarfer â siarad Saesneg. Yn ein barn ni, fe fuasai yn well i’r rhai hyn, yn lle gwrando ar eu gilydd yn brygawthan Saesneg amherffaith, fyned i ysgol yn Lloegr am ychydig fisoedd. Gresyn na fyddai Cymry fel hyn mor awyddus i wellhau eu Cymraeg drwg ag ydynt i wellhau eu Saesneg drwg, os ydynt yn bwriadu ymgartrefu yng Nghymru. Wrth ystyried pa fath boblach sydd yn ymwthio i bwyllgorau yr Eisteddfod y mae yn rhyfedd fod ynddi gymmaint o Gymraeg ag y sydd. Oni buasai fod gwlad yn gryfach na phwyllgor, fe fuasai yr Eisteddfod erbyn hyn wedi myned yn sefydliad hollol Seisnig. Y mae hi eisoes wedi peidio â bod yn Eisteddfod Genedlaethol.

Am “Eisteddfod Flynyddol yr Annibynwyr,” “Eisteddfod Flynyddol y Bedyddwyr,” “Eisteddfod Flynyddol y Methodistiaid Calfinaidd,” “Eisteddfod Flynyddol y Wesleyaid,” &c., nid oes eisiau dweyd mai cyfarfodydd sectol ydynt hwy, ac nid Eisteddfodau yn ystyr priodol y gair. Weithiau fe gedwir hanner dwsin o’r “eisteddfodau” hyn yn yr un lle ynghorff yr un flwyddyn! Beirniaid o’n “henwad ni,” a thestynau sy’n ddyddorol i “bobl ein capel ni,” a geir yn y cyfarfodydd hyn: a chan eu bod mor sectol ni allant fod yn genedlaethol: yn hytrach, y maent yn troi calonnau plant Cymru oddi wrth eu cenedl at un o’r clybiau crefyddol sydd yn peri cymmaint o rwystr i lwyddiant ein gwlad, yn wleidyddol, yn addysgol, yn foesol, ac yn grefyddol.

 

Y COLEGAU “CENEDLAETHOL.”

3. Yr ydys yn haeru, pan y bydd ar athrawon Seisnig a Dic-Sion-Dafyddol eisiau arian gan y Cymry hygoelus, fod gennym Golegau “Cenedlaethol,” neu Athrofeydd “Cymreig.” Pa le, attolwg, y maent? Yn sicr, nid oes gennym ym Mangor, nac Aberystwyth, na Chaerdydd; canys nid yw y tri choleg sydd yn y lleoedd hynny yn ddim amgen na meithrinfeydd i Seisnigaeth ac anwladgarwch. Os yw yn well gan wŷr ieuainc un o’r colegau ganu “Hen Wlad fy Nhadau,” ac “Ymdaith Gwŷr Harlech,” na God Save the English King, ni raid dïolch dim am hynny i’r athrawon a’r llywodraethwyr; ac os ydys yn rhoddi tipyn bach , bach, o gyflog i athraw mewn coleg arall am ddarlithio ar y Gymraeg, peidier â meddwl fod odid un o aelodau anrhydeddus y Cyngor yn malio dim am iaith y Cymry: yn hytrach fe daflai y rhan fwyaf o honynt y Gadair Gymreig y fory nesaf i Tophet oni bae fod arnynt “ofn y bobl,” sef y bobl sydd yn cyfrannu o’u prinder i drysorfa’r coleg.

I ba beth yr oedd eisiau Athrofeydd yng Nghymru, os nad oeddid yn meddwl gwneyd gwybodaeth o iaith, a llenyddiaeth, a hanes y Cymry yn brif beth ynddynt? Ai er mwyn rhoddi ychydig o waith a llawer o gyflog i Saeson a Dic-Sion-Dafyddion? Os Saeson ydyw yr athrawon cymhwysaf i addysgu ein plant, yna fe fuasai yn well i ni anfon ein plant i Loegr i gael eu haddysgu gan Saeson galluocach na’r rhai sydd yng Nghymru. Ac o’r ddau, fe fuasai yn well i athrawon ein colegau fod yn Saeson i gyd na bod rhai o honynt yn hanner Cymry, ag sydd wedi esgeuluso dysgu eu hiaith eu hunain, ac heb gael mantais i feistroli un iaith arall. Y mae anwybodaeth y rhàn fwyaf o athrawon “Cymreig” ein colegau am y pethau rheitiaf ac agosaf attynt yn rhywbeth aruthr ac annirnadwy. Pa ham na ddylasai eu Cymraeg hwy fod cystal a Saesneg yr athrawon Seisnig? ïe, pa ham na ddylasai eu Saesneg hefyd fod agos cystal, a hwythau yn barhaus yn mynnu siarad ac ysgrifennu yn Saesneg? Os achwyna rhywrai na fedr yr athrawon hyn ysgrifennu cymmaint a brawddeg yn gywir ac ystwyth yn eu hiaith eu hunain, fe ettyb rhyw gyfaill iddynt yn ddiniwed, “Gwir, ond fe ddywedir eu bod yn medru Lladin yn dda.” Lòl i gyd: y gwir ydyw na ŵyr y rhai hyn ddim mwy am y pell nag y wyddant am yr agos. Y maent wedi myned trwy arholiadau yn ddigon anrhydeddus, fel y gwnaeth llawer o fechgyn cyffredin o’u blaen; ond nid ydynt yn llenorion, nac yn ysgolheigion chwaith.

Er hynny, y mae gan yr athrawon colegol a’r arweinwyr cenedlaethol hyn grỳn lawer o falchder llenyddol, os nad o wyleidd-dra hefyd; canys odid byth y byddant yn anturio ysgrifennu dim i bapur neu gylchgrawn Cymreig; a phan y bydd ambell erthygl yn ymddangos o dan eu henw, chwi a gewch wybod trwy ymholi mai y golygydd neu ryw gyfaill o efrydydd a fydd wedi cyfieithu honno o Saesneg sâl i Gymraeg salach.

Colegau “Cenedlaethol” yn wir! Ai colegau cenedlaethol y cyfrifid colegau Bohemia neu Hungaria pe bae eu hathrawon a’u llywodraethwyr yn Ellmynig eu hiaith, eu teimlad, a’u harferion, a phe ceuid allan o’u hystafelloedd a’u cyhoeddiadau bob peth brodorol? Colegau Seisnigaidd ydyw colegau Cymru, a dweyd y lleiaf; ac o ran dim a wnant i gadw ac i gadarnhau Cymry yn genedl, fe all pob gwladgarwr weddïo ar i dân o’r nef ddisgyn arnynt, a’u llosgi hyd eu sylfaeni.

Y mae y Colegau Enwadol yn llawn mor anghymreig a’r colegau eraill; ond gan nad ydynt hwy yn honni eu bod yn genedlaethol ni ddywedwn ddim am danynt ar hyn o bryd, heb law mai afresymol dros bèn yw peidio â dysgu Cymraeg i ddynion ag sydd yn meddwl byw ar bregethu i’r Cymry.

Heblaw y Colegau, y mae yng Nghymru ryw ysgolion yr ydys yn eu galw yn “Ysgolion Cenedlaethol;” ond fe ŵyr agos bawb mai ysgolion perthynol i genedl y Saeson, neu yn hytrach i Eglwys y Saeson, ac nid ysgolion perthynol i genedl y Cymry, ydyw meddwl yr enw hwn. Felly, math o Achosion Seisnig ydynt o dan nawdd Eglwys Loegr; ac y mae eu dylanwad ar Gymru wedi bod yn niweidiol a dylanwad Achosion Seisnig yr Ymneillduwyr. Fe wyddys fod i bob Achosion Seisnig eu heffeithiau Seisnig; ac o blegid hynny y maent mor ffiaidd gan bob Cymro sy’n caru ei genedl yn fwy na’i dipyn sect. Y mae yn rhydd i gefnogwyr yr Ysgolion Cenedlaethol Eglwyseiddio plant y Cymry, os gallant; ond nid yw rydd iddynt geisio eu Seisnigeiddio hefyd. Wrth wneyd hyn, y maent yn euog o garn-fradwriaeth yn erbyn y genedl, ac yn haeddu eu cospi fel carn-fradwyr eraill. Yr ydym yn addef fod llywodraethwyr yr ysgolion hyn yn fradwyr mwy diragrith na llywodraethwyr yr ysgolion aneglwysig; canys y mae y rhai olaf yn bradychu eu hiaith a’u cenedl â chusan.

 

“YR ENWAD CENEDLAETHOL.”

4. Fe fu llawer gynt, ac y mae etto rai, o’r Methodistiaid Calvinaidd Cymreig yn honni fod eu cyfundeb hwy yn gyfundeb cenedlaethol. A rhaid addef y bu ganddynt unwaith seiliau da i obeithio mai hwynt-hwy a fyddai Eglwys y Cymry. Gan eu bod, o ràn eu haniad, eu hyspryd, a’u hiaith, yn fwy Cymreig nag un cyfundeb arall, yr oedd yr Arglwydd a chorff y genedl gyd â hwynt. Yr oedd eu cynnydd dros hir amser yn fwy na chynnydd yr holl gyfundebau eraill gyd â’u gilydd. Ond pan ymroes y Methodistiaid i ymgystadlu â’r cyfundebau eraill mewn dala Saeson a Chymry Seisnigedig, ac mewn adeiladu noddfeydd balchder ar eu cyfer, fe syrthiodd yr Hen Gorff rhwng dwy ’stôl; canys efe a gollodd serch y Cymry ac a fethodd âg ennill serch y Saeson.Y mae hyd yn oed Methodistiaid Seisnig Cymru, hoff blant ei henaint a’i wiriondeb, y rhai yr aberthodd efe ei arian, ei eirwiredd, a’i enw da, er eu mwyn – y mae y rheini erbyn hyn wedi torri pob llinyn ag oedd yn eu cysylltu âg ef, oddi gerth y llinyn arian. Ië, y maent yn gwadu enw y cyfundeb a’u magodd, gan alw eu hunain yn “English Presbyterians.”

Hyd yn oed pe cyfrifid y Presbyteriaid Seisnig gyd â’r Methodistiaid Calvinaidd, ni all y ddwy sect ynghyd honni mwyach eu bod yn gryfach na’r holl sectau eraill gyd â’u gilydd. Yn wir, y mae dau gyfundeb arall mor gyfartal a’r “Corff” o ràn eu rhifedi, fel y mae y tri chyfundeb er ys talm yn ymddadleu pwy sydd fwyaf; ac os pery y Methodistiaid a’r Presbyteriaid i golli tir yn ol yr un cyflymder ag y maent yn ei golli yn y blynyddoedd hyn, fe geir eu clywed cyn pen ugain mlynedd yn ymddadleu â’r Wesleyaid pwy sydd leiaf. O! Gorff! ti a’th ddinystriaist dy hun trwy dy ffolineb; a hyd yn oed pe baet weithiau yn edifarhau ac yn newid dy ffordd, ni elli byth mwyach adennill y tir a gollaist. Y mae dy awr wèn wedi myned heibio, a dydd dy iachawdwriaeth wedi darfod. Pe buasit, gan ddilyn esiampl Griffith Jones, Madam Bevan, a Thomas Charles, yn cyfrannu o’th ormodedd tuag at godi ysgolion Cymreig a thuag at gadw athrawon i addysgu Cymraeg, yn lle afradloni dy dda ar Achosion a bugeiliaid Seisnig, ti allaset fod yn gryf yn y parthau yr wyt yn wàn, ac yn gryfach fyth yn y parthau yr wyt yn gryf. Wrth ddisgwyl yr ymostyngai Saeson i dderbyn eu crefydd gan sect o bobl a ymgododd yng Nghymru, ti a anghofiaist fod amser y gwyrthiau wedi myned heibio; ac wrth dybied y gallai Duw wneyd Dic-Sion-Dafyddion yn Gristionogion, a pheri i ddynionach sydd yn anffyddlon yn y lleiaf fod yn ffyddlon yn y mwyaf, ti a guraist dy ben meddal yn erbyn rheswm ac ysgrythyr. Gan dy fod wedi rhwystro, nid oes iti bellach ond ymgysuro yn yr ystyriaeth nad tydi yw y cyntaf a aeth i drybini wrth redeg ar ôl dieithriaid.

Y mae yr Hen Gorff wedi colli ei gyfle i fod yn gyfundeb cenedlaethol: cyfle yr Eglwys a ddaw nesaf, – eithr nid yr Eglwys fel y mae hi, ond yr Eglwys ar ol ei dadsefydlu. Tybed yr achub hi y cyfle hwnnw i wneyd ei hun yn Eglwys annibynol a gwir Gymreig? A fydd hi yn ddigon cryf i ddiswyddo, ar delerau anrhydeddus, yr holl glerigwyr anghymroaidd ac anfedrus a etholodd y nef i wasanaethu byrddau mewn banciau a siopau, ac i bennodi yn eu lle wŷr amgenach? Yr ydym yn addef ei bod hi yn fwy cymmeradwy na’r sectau Ymneillduol o ran ei hynafiaeth, eangder ei chyffes, ac urddas ei gwasanaeth; ond pa beth a dycia yr holl ragoriaethau hyn, os na bydd ganddi chwaneg o bregethwyr gwerth eu gwrando? Ofni yr ydym mai gadael i’w chyfle fyned heibio heb fanteisio arno a wnaiff yr Eglwys hefyd, ac y rhaid disgwyl ymwared o le arall. O ba le, meddwch, y daw ymwared? O blith pob cyfundeb ag y mae ynddo seithmil o Gymry na phlygasant eu gliniau i Baal; o blith pawb y mae yn fwy ganddynt gadwedigaeth y genedl a chadwedigaeth yr iaith na chadwedigaeth sectau a Saeson. Ychydig iawn o amser a roddir etto ï gyfundebau Cymru i edifarhau am fyw cyhyd i fathru greddfau dyfnaf a theimladau cyssegredicaf y genedl. Y mae amynedd y bobl sydd yn digio yn araf ac yn tewi â son, yn dechreu pallu. Y mae gwŷr ieuainc o bob parth yn ymgydnabod â’u gilydd, ac yn ymgynghori â gwyr hynach ynghylch yr adeg oreu i ymgodi yn erbyn y sectyddiaeth afresymol sydd ar yr un pryd yn mynnu cadw yn gyfan y cloddiau a wnaeth dynion i wahanu crefyddwyr, a dileu y terfynau a ordeiniodd Duw i wahanu cenhedloedd. Yr ydym yn credu mewn Eglwys Gatholig, sef Eglwys Gyffredinol; ond yr ydym yn credu hefyd fod yn naturiol ac yn weddus i honno gymmeryd gwedd genedlaethol ymhlith gwahanol genhedloedd. Yr ydys yn disgwyl iddi ymhob màn feithrin cenedlgarwch ac iaithgarwch, a phob peth sydd ynddo ei hun yn dda; ond yn yr Almaen yr ydys yn disgwyl iddi feithrin cariad tuag at yr Ellmyn a’r Ellmynaeg; ac yng Nghymru yr ydys yn disgwyl iddi feithrin cariad tuag at y Cymry a’r Gymraeg. Ar hyn o bryd yr ydym ni heb un eglwys ag sydd yn ein cefnogi i garu ein gwlad, ein hiaith, a’n cenedl. Er hynny, y mae y gwahanol sectau yn cynnwys defnyddiau Eglwys Genedlaethol, Eglwys y Cymry, yr Eglwys a Fydd; a honno yw yr eglwys a orfydd yn y màn ar bob un o’r man sectau.

 

EIN GWLEIDYDDION CENEDLATHOL

5. Yn y dyddiau hyn y mae bagad o bobl yn ymgodi yn ein gwlad ag sydd yn galw eu hunain yn Wleidyddion Cenedlaethol; ond y mae y rhàn fwyaf o honynt yn genedlaethol, nid am eu bod yn ddynion i’r genedl, eithr am eu bod yn ddynion o’r genedl, sef yn greaduriaid wedi eu cenhedlu o ryw Gymry neu gilydd; neu ynte am eu bod yn greaduriaid ag sydd, trwy foli eu hunain a’u gilydd, yn chwennychu gwneyd eu henwau yn hyspys i’r genedl. Y mae yn well gan y rhain ymwthio nag ymwadu; siarad yn uchel na gweithio yn ddistaw. Yr ydym ni y Cymry wedi bod yn rhy hir o lawer yn ymofyn pa beth y mae rhyw fân ymgeiswyr swyddgar yn ei ddweyd am hyn a’r llall: y mae hi yn bryd ini ymofyn bellach pa beth y maent yn ei wneyd dros y pethau pwysicaf a berthyn i Gymru; pa beth, er enghraifft, y maent yn ei wneyd yn eu teuluoedd eu hunain, ac ymhob cylch y byddont ynddo, i gadw a hyrwyddo iaith, a llenyddiaeth, ac arferion goreu eu cenedl. Pan y byddont yn ymgeisio am aelodaeth mewn Bwrdd neu Gyngor, na ofyner iddynt i ba Enwad crefyddol, neu i ba blaid wleidyddol Seisnig, y maent yn perthyn; yn hytrach, gofyner iddynt a ydynt bob amser yn siarad eu hiaith eu hunain gyd â Chymry, a chyd â Saeson sydd wedi bod yn hwy na thair blynedd yng Nghymru; a fyddant yn ysgrifennu llythyrau Cymreig at fasnachwyr trefi mawr Lloegr; a fyddant yn rhoi eu tystiolaeth yn eu hiaith eu hunain mewn llysoedd barn a llysoedd eraill; a fyddant yn myned i addoldai Cymreig ar y Suliau; a fyddant yn rhoi gorchymmyn caeth i athrawon cyhoeddus ac i athrawon teuluol ddysgu Cymraeg yn gyntaf peth i’w plant; a allant hwy eu hunain fyned trwy arholiad yng ngrammadeg eu hiaith, ac yn hanes a llenyddiaeth eu gwlad; ac a ydynt yn ddigon medrus a gwrol i ganu “Hen Wlad fy Nhadau,” neu “Gwnewch boppeth yn Gymraeg,” pan y clywont Gymro yn gwaradwyddo ei hun trwy siarad Saesneg mewn cynnulleidfa y byddo ynddi fwy o Gymry nag o Saeson? Os na allant roi attebion boddhaol i’r gofyniadau hyn, gadawer hwynt dros byth i bydru yn y dinodedd sydd yn gweddu i hanner dynion a gau Gymry.

CYMRU GYMREIG, ac nid Cymru Seisnig; CYMRU I’R CYMRY, ac nid Cymru i’r Saeson, a ddylai fod ein harwyddeiriau ni. Yr oedd yn ofidus ac yn rhyfedd gennym weled mewn newyddiadur i ryw Gynghorwr o un o drefi Gogledd Cymru âg iddo enw Cymreig ddweyd mewn cyfarfod cyhoeddus fod “Wales for the Welsh” yn waedd rhy Gymreig gan lodgers a lodging-house keepers y dref honno, ac fod yn rhaid i Gymdeithas Cymru Fydd fod yn gymdeithas Seisnigaidd, os mynnai hi lwyddo yn y drefedigaeth Seisnig honno. Ac yr oedd yn rhyfeddach fyth gennym weled fod rhyw “Aggrieved [English] Liberal” wedi dychrynu cymmaint ar gynnrychiolydd Bwrdeistrefi Arfon fel y darfu iddo yn yr un cyfarfod ymostwng i alw Wales for the Welsh yn “ridiculous cry” – yn waedd ddirmygus. Ni wyddom ni pa beth y mae Mr. Lloyd George yn ei feddwl wrth y waedd hon; eithr ni a wyddom pa beth y mae y rhai sydd yn ei harfer yn ei feddwl wrthi. Yr ydym yn credu mai Emrys ap Iwan a’i cododd hi gyntaf, ac mai efe a ysgrifennodd fwyaf arni. A pha ystyr y mae efe yn ei roddi iddi? A barnu wrth ei ysgrif arni yn un o rifynau cyntaf Y GENINEN, y mae efe yn dadleu y dylai fod

 

CYMRU YN EIDDO’R CYMRY

 

yn yr un ystyr yn union ag y mae Lloegr yn eiddo’r Saeson. Fe wyddys na chaiff un Cymro swydd gyhoeddus yn Lloegr heb fedru Saesneg; am hynny, medd Emrys ap Iwan, ni ddylai un Sais gael swydd gyhoeddus yng Nghymru heb fedru Cymraeg. Pa beth sydd yn fwy rhesymol na hynny? A all Cymry ofyn llai heb gydnabod nad ydynt hwy yn haeddu cael yr un breintiau a’r Saeson? Y mae Mr. George ei hun yn addef y dylai y Cymry gael perffaith chwareu teg yn eu gwlad eu hunain; ond pa fodd y gellir dwedyd eu bod yn cael chwareu teg, tra y bo y Saeson yn cael swyddau yng Nghymru tan ammodau na chaiff Cymry mo honynt yn Lloegr? Er enghraifft, pa Gymro uniaith a gaiff y swydd isaf ar un o ffyrdd haiarn Lloegr? ac etto yr ydys yn rhoddi i Saeson uniaith y swyddau uchaf ar ffyrdd haiarn Cymru. Yr ydym yn gobeithio fod y camwri cywilyddus a wnaed â gweithwyr cyffredin Cymreig ar un o ffyrdd haiarn Gogledd Cymru wedi bod yn foddion i argyhoeddi Mr. George erbyn hyn nad yw y rhai sy’n gwaeddi “Cymru i’r Cymry” ddim yn gofyn llawn cymmaint ag a ddylent ei ofyn. Nid ydynt hwy yn haeru y dylai y prif swyddogion ar brif linellau Lloegr fedru Cymraeg, er y byddai mor resymol iddynt haeru hynny ag yw i’r Saeson faentumio y dylai y prif swyddogion ar linellau Cymru fedru Saesneg. Yr ydym ni yn ddigon grasol i addef nad yw ddigon i brif swyddogion ffyrdd haiarn Cymru fedru Cymraeg yn unig, ac i addef fod yn ddigon i brif swyddogion ffyrdd haiarn Lloegr fod yn medru Saesneg yn unig; ond ni fynnwn byth addef y dylai Saeson uniaith gael yr un breintiau a Chymry dwyieithog, na hyd yn oed a Chymry uniaith, yng Nghymru. Os mynnant i ni eu parchu trwy eu cyfrif yn deilwng i lenwi y swyddau mwyaf cyhoeddus yn ein plith, parchant hwythau ninnau trwy ymostwng i ddysgu ein hiaith. Hyd y gwyddom ni, nid yw y rhai sy’n gwaeddi “Cymru i’r Cymry” yn ewyllysio attal un math o Saeson (oddieithr professional tramps) rhag dyfod i’n gwlad: ewyllysio y maent yn unig attal Seison uniaith rhag llywodraethu arnom. Y mae yn wir fod Emrys ap Iwan yn ei ysgrifau yn gwaeddi am bethau eraill heb law “Cymru Gymreig:” megis Senedd Gymreig, Senedd Ymherodrol, &c.; ond yr oeddym ni yn meddwl fod y rhan fwyaf o’r aelodau seneddol dros Gymru er’s blynyddoedd bellach wedi peidio à galw y waedd am y pethau hyn yn “ridiculous cry.” Fe fyddai yn ddoeth i Mr. George a phob cynnrychiolydd arall beidio â bod yn rhy frysiog i alw gwaedd resymol ond anffasiynol yn “ridiculous cry,” rhag gorfod arnynt hwythau cyn hir wneyd ridiculous volte-face. Lawer blwyddyn yn ol, o dan yr hen oruchwyliaeth, fe dyngodd Mr. Osborne Morgan yn Ffestiniog y byddai yn well ganddo ef gymmeryd ei het a chilio o’r Senedd nag ymostwng i ddangos tipyn o egni Gwyddelig. Ni raid dweyd fod Osborne Morgan a’i het o hyd yn y Senedd, a’i fod erbyn hyn yn flaenor plaid sy’n efelychu y blaid Wyddelig.

Y mae yn hawdd gennym gredu fod “Cymru i’r Cymry,” neu “Gymru Gymreig,” yn waedd adgas, ofnadwy, gan y Saeson sydd yn meddwl nad yw nefoedd na daear ond meddiannau Seisnig, ac nid yw Cymru ond math o dir hela i’w meibion ysglyfgar hwy; ond tybed fod y creaduriaid trahaus hyn mor lliosog ym Mwrdeistrefi Arfon fel y rhaid i Mr. George eu hofni ar ddydd etholiad? Dyged ef fwy o sel dros bethau cenedlaethol na thros bethau enwadol a dosparthiadol; ennilled ef serch y Cymry, yn Chwigiaid ac yn Dorïaid, yn Ymneillduwyr ac yn Eglwyswyr, yna efe a all glecian ei fysedd ar Saeson Llandudno a Saeson pob llàn arall. Nid ydym ninnau, mwy na’r heddychol Lloyd George, yn caru gweled rhyfel rhwng cenedl a chenedl (er fod rhyfel rhwng cenedl a chenedl yn iachach na rhyfel rhwng dosparth a dosparth yn yr un genedl); ond gan fod y Saeson, gyd â chymmorth y Cymry Seisnigaidd, yn gwthio rhyfel arnom, yr ydym yn annog y Cymry Cymroaidd i’w gwrthsefyll hwynt fel gwŷr. Os ydynt hwy yn mynnu digio wrthym am barchu ein hunain, a pharchu y pethau sydd yn ein gwneyd yn genedl, rhown achos iddynt i ddigio hyd angau. Gan i Dduw ein gwneyd yn bobl, ni fynnwn ddiddymu ein hunain er mwyn boddhau pobl anghyfiaith. Gan eu bod hwy yn dywedyd yn eu calon a thrwy eu hymddygiadau, “Y Saeson yn erbyn y Cymry,” gwaeddwn ninnau, “Y Cymry yn erbyn y Saeson”: a’r Duw a gyfrannodd etifeddiaeth y cenhedloedd a amddiffyno’r genedl gyfiawnaf. Os rhaid i ni y Cymry farw, byddwn farw wrth ymladd am ein bywyd cenedlaethol.

 

DAU GYFAILL.

, , , , , ,

Rhowch sylw

Uninteresting and trivial tautologies

Source: Uninteresting and trivial tautologies

Rhowch sylw

Uninteresting and trivial tautologies

“The positivists have a simple solution: the world must be divided into that which we can say clearly and the rest, which we had better pass over in silence. But can any one conceive of a more pointless philosophy, seeing that what we can say clearly amounts to next to nothing? If we omitted all that is unclear we would probably be left with completely uninteresting and trivial tautologies.” (Werner Heisenberg)

,

Rhowch sylw

Nation.Cymru

A news service by the people of Wales, for the people of Wales.

Transferre

Poetry in Translation for the Preservation of Minority Languages Tradurre poesia per la salvaguardia delle lingue minoritarie Traduire la poésie pour sauvegarder les langues minoritaires

Research Journal

Iberian Studies. Travel Writing and Mobility. Comic Books... by David Miranda-Barreiro

Ffawtliniau Disgyrsiol

Blog Ymchwil | Philip R. Davies | Research Blog